LLINYN GLAS Gadael ei chartra’ clud yn Llanwnda Merch fach yn chwilio am antur Sgwn i os ga’i esgyll a chynffon Byw yn y dŵr fel morlo Clywed mewn breuddwyd stori am deithio Ferch fach yn chwilio am antur Mae gen i swyn i ddenig o’r pentre’ Symud trwy’r dŵr fel tonna’ Rhaid i ti gasglu cregyn o arian Gwymon a chorn carw’r môr Claddu nhw gyd dan sycamorwydden Adrodd y geiriau hyn: Llinyn glas, lapio ‘nghwmpas Ga’i fod yn rhydd? Agor ei llygaid mewn byd gwahanol Anadlu o dan y dŵr Dim rhaid ti poeni am suddo neu foddi Yma ym mhell o’r tir Dilyn yr haig ar goll yn y Fenai Gyda’r Silcyn a’r Seren fôr Dal yn y llanw, rhwyd ei dymuniad Carchar y culfor creulon. Llinyn glas, lapio ‘nghwmpas Ga’i fod yn rhydd? Ac ma’r drobwll yn gry’ Yn y trobwll o hyd Yn y trobwll mae hi Ydi Cerys wir yn rhydd? Bydd yn ofalus drwy Bwll Cerys Chi sydd yn chwilio am antur Does dim gwahoddiad, dim ond fygythiad Rhybudd i’r morwr ffôl Peidiwch â dilyn llwybr y llinyn Llwybr y llinyn glas. Llinyn glas, lapio ‘nghwmpas Ga’i fod yn rhydd?
Prosiect werin Gymraeg cydweithredol yr artistiaid SERA ac Eve Goodman. Welsh folk collaboration between SERA and Eve Goodman.
evegoodman.co.ukserasongs.com