Troi from Crafangau by Me Against Misery
Tracklist
| 7. | Troi | 4:03 |
Lyrics
Bell heibio hanner nos
dim heddwch yn yr enaid
mewn byd o bosibilrwydd
amhosib yw y dasg
a mae’r ateb mas 'na
yn dawnsio trwy’r cysgodion
Y gwenwyn yn y moddion
Y llwyd rhwng du a gwyn
A does dim llonydd fan hyn
pan wy’n teimlo’r byd yn troi
mor ddi-ymadfer
troi, di-baid a chreulon
troi, paid llithro i ffwrdd tra bo'r hen fyd 'ma’n
troi
mor ddi-ymadfer
troi, di-baid a chreulon
troi, paid llithro i ffwrdd
Diddiwedd yw y ffordd
sy’n arwain at berffeithrwydd
Diddiwedd yw y galar
sy’n dilyn enaid coll
a mae’r ateb mas 'na
yn dawnsio trwy’r cysgodion
Y gwenwyn yn y moddion
Y llwyd rhwng du a gwyn
A does dim llonydd fan hyn
pan wy’n teimlo’r byd yn troi
mor ddi-ymadfer
troi, di-baid a chreulon
troi, paid llithro i ffwrdd tra bo'r hen fyd 'ma’n
troi
mor ddi-ymadfer
troi, di-baid a chreulon
troi, paid llithro i ffwrdd








